IWAN LLEWELYN-JONES
'Fel petai'n gallu creu cerddorfa lawn o'i offeryn' - dyna sut y disgrifiwyd perfformiad diweddar gan Iwan Llewelyn-Jones yn y Daily Telegraph. Fel un o bianyddion mwyaf disgair a llwyddiannus Prydain, mae Iwan wedi ymddangos mewn cyngherddau dros y byd. Yn 2006 fe fydd yn rhoi ei ddatganiad 'debut' yng Ngogledd America yn San Francisco, ac yn cymryd rhan mewn cyfres arbennig 'Sunday Morning Coffee Concert Series' yn Neuadd Wigmore.
Addysgwyd Iwan ym Mhrifysgol Rhydychen a'r Coleg Cerdd Brenhinol, lle'r ennillodd sawl gwobr a chystadleuaeth. Daeth llwyddiant rhyngwladol mewn gwyliau piano yn Sbaen, yr Eidal, Ffrainc a Phrydain.
Mae repertoire Iwan yn un eang gan gynnwys cyfansoddiadau o gyfnod y Baroc i'r dydd presennol. Yn 1999 fe roddodd chwe datganiad o weithiau'r cyfansoddwr Frederic Chopin, ac yn 2004 fe ddyfeisiodd gyfres o gyngherddau a ganolbwyntiodd ar fywyd a gwaith Francis Poulenc. Cafodd gryn gydnabyddiaeth am ei berfformiadau o gerddoriaeth piano Ffrengig, yn enwedig ei gryno ddisg ('French Portraits'). Mae ganddo gysylltiad agos a sawl cyfansoddwr cyfoes Cymraeg - ysgrifennwyd gweithiau yn arbennig iddo gan Alun Hoddinott, John Metcalf, Karl Jenkins, Richard Elfyn Jones, John Pickard, Pwyll ap Sion a Geraint Lewis. Fe ymddengys rhain ar gryno ddisg 'Portreadau Cymraeg'. Yn 2005 cyflwynwyd Gwobr Syr Geraint Evans i Iwan Llewelyn-Jones gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru.
Ynghyd a'i waith unawdol mae Iwan wedi ymddangos fel unawdydd gyda Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC mewn gweithiau gan Mozart, Chopin a Litolff ac mae'n gerddor siambr profiadol. Yn 2004 fe sefydlodd grwp siambr gan gynwys offerynwyr o dras Cymraeg er mwyn hybu cerddoriaeth newydd.
Fel athro, addysgwr, beirniad ac arholwr mae Iwan yn rhoi pwyslais mawr ar gefnogi a meithrin cerddorion ifanc. Ef yw Llywydd Presennol Ymddiriedolaeth Cerdd Ynys Mon.